OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1978 (Cy. 218)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio:
(a) Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/148) (“Rheoliadau 2011”);
(b) Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/886) (“Rheoliadau 2012”);
(c) Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/736) (“Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd”);
(ch)Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3359) (“Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”);
(d)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2310) (“y Rheoliadau Ffioedd”); ac
(dd)Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/691) (“Rheoliadau’r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol”).
Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr i'r personau hynny sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p’un a yw’r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn Atodlen 1 i Reoliadau 2011 sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 4.
Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau 2012 ac mae rheoliadau 9 i 11 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd.
Mae rheoliad 13 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn rheoliad 3 o Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr i'r personau hynny sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p’un a yw’r personau hynny'n wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 14 yn diwygio'r diffiniad o “aelod o deulu” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1 i Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae'r diwygiad hwn yn rhoi yn lle’r cyfeiriad at “plentyn” un sy'n cyfeirio at ddisgynyddion uniongyrchol y person, neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed, neu’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y diffiniad o “aelod o deulu” yn Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd bellach yn cyfateb i ddiffiniad y term hwnnw yn Rheoliadau 2011 a Rheoliadau 2012. Mae rheoliad 15 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn Atodlen 1 i Reoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 13.
Mae rheoliad 17 yn diwygio'r diffiniad o “aelod o'r teulu” yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd. Mae'r diwygiad hwn yn rhoi yn lle’r cyfeiriad at “plentyn” un sy'n cyfeirio at ddisgynyddion uniongyrchol y person, neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed, neu’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y diffiniad o “aelod o'r teulu” yn y Rheoliadau Ffioedd bellach yn cyfateb i ddiffiniad y term hwnnw yn Rheoliadau 2011 a Rheoliadau 2012. Mae rheoliad 18 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd. Mae'r diffiniad diwygiedig hwn yn estyn y categorïau o berson na chaniateir codi ffioedd dysgu ('tramor') uwch arno, drwy gynnwys personau sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p’un a yw’r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 19 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 18.
Mae rheoliad 21 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn yr Atodlen i Reoliadau’r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol. Mae'r diffiniad diwygiedig hwn yn estyn y categorïau o bersonau cymhwysol a ragnodir gan y Rheoliadau hynny, drwy gynnwys personau sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p’un a yw’r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 22 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn yr Atodlen i Reoliadau’r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol sydd yn ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan reoliad 21.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1978 (Cy. 218)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011
Gwnaed 9 Awst 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Awst 2011
Yn dod i rym 31 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]) ac adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983([2]), ac sydd bellach yn arferadwy
ganddynt hwy([3]) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 28(6) o Ddeddf Addysg Uwch 2004([4]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([5]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr,
Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011([6]);
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011([7]);
ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“Fees Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007([8]);
ystyr “Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd” (“European University Institute Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009([9]);
ystyr “Rheoliadau’r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol” (“Qualifying Courses and Persons Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011([10]); ac
ystyr “Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd” (“European Institutions Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011([11]).
Diwygio Rheoliadau 2011
3. Mae Rheoliadau 2011 yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 a 5.
4. Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol([12]) neu ganiatâd yn ôl disgresiwn([13]) er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
5. Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—
“(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—
“(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—
“(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.
Diwygio Rheoliadau 2012
6. Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 ac 8.
7. Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
8. Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—
“(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—
“(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—
“(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y canlynol;
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.
Diwygio Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd
9. Mae Rheoliadau’r Sefydliadau Ewropeaidd wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 10 ac 11.
10. Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
11. Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—
“(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—
“(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—
“(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,”.
Diwygio Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd
12. Mae Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 13 i 15.
13. Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i’r person hwnnw ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw’n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i’r person hwnnw ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
14. Yn Rhan 1 o Atodlen 1, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “aelod o deulu” (“family member”) yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—
“(ii) disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu”.
15. Yn Rhan 2 o Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—
“(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—
“(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—
“(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.
Diwygio'r Rheoliadau Ffioedd
16. Mae’r Rheoliadau Ffioedd yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 17 i 19.
17. Ym mharagraff 1 o'r Atodlen, yn y diffiniad o “aelod o’r teulu” (“family member”), yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—
“(ii) disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd—
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu”.
18. Ym mharagraff 1 o'r Atodlen, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”),yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i’r person hwnnw ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw’n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i’r person hwnnw ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
19. Yn yr Atodlen—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—
“(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—
“(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad hwnnw;” ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—
“(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”.
Diwygio Rheoliadau’r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol
20. Mae Rheoliadau’r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 21 a 22.
21. Ym mharagraff 1(1) o'r Atodlen, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.
22. Yn yr Atodlen—
(a) yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—
“(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”;
(b) yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—
“(b) a oedd ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,
yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac
(c) yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—
“(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(i) y cais am loches; neu
(ii) y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”.
Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
9 Awst 2011
([1]) 1998 p.30; cafodd adran 22 ei diwygio gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7 a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257.
([2]) 1983 p.40; cafodd adran 1 ei diwygio gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), adran 237 ac Atodlen 12; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), adran 93 ac Atodlen 8; Deddf Addysg 1994 (p.30), adran 24 ac Atodlen 2; Deddf Addysg 1996 (p.56), adran 582(1) ac Atodlen 37; Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) adran 149 ac Atodlen 9; Deddf Addysg 2002 (p.32), adran 215 ac Atodlen 21; Deddf Addysg 2005 (p.18), adran 98 ac Atodlen 14; Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238), erthygl 9 ac Atodlen 1; Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/1080), erthygl 2 ac Atodlen 1 a Gorchymyn yr Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 ac Atodlen 2. Cafodd adran 2 ei diwygio gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 44 ac Atodlen 4.
([3]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2006 (O.S. 2006/1458) gydag effaith o 8 Mehefin 2006 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
([5]) Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).